Diarhebion 12:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,ond llawenheir ef gan air caredig.

26. Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.

27. Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa,ond gan y diwyd bydd golud mawr.

28. Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd,ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.

Diarhebion 12