Diarhebion 12:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.

14. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.

15. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

Diarhebion 12