Diarhebion 1:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. yn gweiddi ar ben y muriau,yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.

22. Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,ac y casâ ffyliaid wybodaeth?

23. Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,tywalltaf fy ysbryd arnoch,a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.

24. Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;

25. am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,a gwrthod fy ngherydd—

26. am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,

Diarhebion 1