Deuteronomium 9:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Cymerais y llo yr oeddech wedi pechu wrth ei wneud, a'i losgi yn y tân, ei guro a'i falu'n fân nes ei fod yn llwch, ac yna teflais y llwch i'r nant oedd yn llifo o'r mynydd.

22. Digiasoch yr ARGLWYDD yn Tabera, yn Massa ac yn Cibroth-hattaafa.

23. Yna pan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea a dweud wrthych, “Ewch i fyny i feddiannu'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi”, gwrthryfela a wnaethoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a gwrthod ymddiried ynddo a gwrando ar ei lais.

24. Yr ydych wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y deuthum i'ch adnabod.

Deuteronomium 9