1. Gwrando, O Israel, yr wyt ti heddiw yn croesi'r Iorddonen i goncro cenhedloedd sy'n fwy ac yn gryfach na thi, a dinasoedd mawr â chaerau cyn uched â'r nefoedd.
2. Y maent yn ddynion mawr a thal, disgynyddion yr Anacim; fe wyddost ti amdanynt, oherwydd clywaist ddweud, “Pwy a saif o flaen yr Anacim?”
3. Ond deall di heddiw fod yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n croesi o'th flaen, yn dân ysol, ac y bydd ef yn eu difa a'u darostwng o'th flaen. Byddi dithau'n eu gyrru allan ac yn eu difa yn sydyn, fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrthyt.