Deuteronomium 8:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Os byddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw ac yn mynd ar ôl duwiau eraill ac yn eu gwasanaethu ac yn ymgrymu iddynt, yna yr wyf yn eich rhybuddio heddiw y byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr.

20. Fel y cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o'ch blaenau y dinistrir chwithau, am ichwi wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.

Deuteronomium 8