Deuteronomium 7:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eu darostwng o'ch blaenau, ac yn dwyn arnynt ddryswch mawr nes eu dinistrio.

24. Bydd yn rhoi eu brenhinoedd yn eich llaw, a byddwch yn dileu eu henwau o dan y nefoedd; ni all unrhyw un eich gwrthsefyll nes i chwi eu dinistrio.

25. Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.

26. Nid ydych i ddwyn i'ch tŷ unrhyw ffieidd-dra, rhag i chwi fynd yn beth i'w ddifrodi fel yntau; yr ydych i'w ddirmygu'n llwyr a'i ffieiddio, oherwydd peth i'w ddifrodi ydyw.

Deuteronomium 7