Deuteronomium 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dywedodd wrthynt: O Israel, gwrandewch ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu llefaru yn eich clyw heddiw. Dysgwch hwy, a gofalwch eu gweithredu.

2. Gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw gyfamod â ni yn Horeb.

3. Nid â'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â ni i gyd sy'n fyw yma heddiw.

4. Llefarodd yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb â chwi ar y mynydd o ganol y tân.

Deuteronomium 5