Deuteronomium 4:44-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

44. Dyma'r gyfraith a osododd Moses gerbron yr Israeliaid.

45. A dyma'r rheolau, y deddfau a'r cyfreithiau a lefarodd Moses wrth yr Israeliaid, wedi iddynt ddod allan o'r Aifft,

46. pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn รข Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft.

47. Cymerasant ei wlad ef a gwlad Og brenin Basan, dau frenin yr Amoriaid oedd yn y dwyrain, yn y diriogaeth y tu hwnt i'r Iorddonen.

48. Yr oedd y diriogaeth yn ymestyn o Aroer, ar lan nant Arnon, at Fynydd Sirion, sef Hermon,

Deuteronomium 4