Deuteronomium 31:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Casglwch ataf holl henuriaid a swyddogion eich llwythau, er mwyn imi lefaru'r geiriau hyn yn eu clyw, a galw nef a daear yn dystion yn eu herbyn.

29. Gwn y byddwch, wedi imi farw, yn ymddwyn yn gwbl lygredig, gan gilio o'r ffordd a orchmynnais ichwi; felly, fe ddaw dinistr ar eich gwarthaf yn y dyddiau sy'n dod, am ichwi wneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio â gwaith eich dwylo.”

30. Llefarodd Moses eiriau'r gerdd hon, o'i dechrau i'w diwedd, yng nghlyw holl gynulliad Israel.

Deuteronomium 31