Deuteronomium 3:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei.

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf yn ei roi ef a'i holl bobl a'i dir yn dy law. Gwna iddo fel y gwnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon.”

Deuteronomium 3