Deuteronomium 29:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma eiriau'r cyfamod y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ei wneud â'r Israeliaid yng ngwlad Moab, yn ychwanegol at y cyfamod a wnaeth â hwy yn Horeb.

2. Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dweud wrthynt: Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i Pharo a'i weision i gyd a'i holl wlad;

3. gwelsoch y profion mawr, yr arwyddion a'r argoelion mawr hynny.

4. Ond hyd y dydd hwn ni roddodd yr ARGLWYDD ichwi feddwl i ddeall, na llygaid i ganfod, na chlustiau i glywed.

Deuteronomium 29