Deuteronomium 25:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Os bydd dau gymydog yn ymladd â'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gŵr rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,

12. torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.

13. Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.

14. Nid wyt i feddu yn dy dŷ fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach.

Deuteronomium 25