Deuteronomium 25:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.

11. Os bydd dau gymydog yn ymladd â'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gŵr rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,

12. torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.

13. Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.

14. Nid wyt i feddu yn dy dŷ fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach.

15. Y mae dy bwysau a'th fesurau i fod yn gyfain ac yn safonol, fel yr estynner dy ddyddiau yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.

16. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud fel arall, ac yn gweithredu'n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

17. Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft;

18. heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy ôl, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol.

Deuteronomium 25