Deuteronomium 23:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Pe bait heb addunedu, ni fyddet yn euog.

23. Gwylia beth a ddaw allan o'th enau, a chyflawna d'addewid i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan mai o'th wirfodd yr addewaist.

24. Os byddi'n mynd trwy winllan dy gymydog, cei fwyta dy wala o'r grawnwin, ond paid â rhoi dim yn dy fasged.

25. Os byddi'n mynd trwy gae ŷd dy gymydog, cei dynnu tywysennau â'th law, ond paid â gosod cryman yn ŷd dy gymydog.

Deuteronomium 23