Deuteronomium 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Nid yw neb sydd wedi ei sbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.

2. Nid yw bastardyn, na neb o'i ddisgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.

3. Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o'u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD,

Deuteronomium 23