Deuteronomium 13:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. yna bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni, ac ni fyddant yn gwneud y fath ddrygioni â hwn yn eich plith byth eto.

12. Pan glywch am un o'r trefi, a gewch gan yr ARGLWYDD eich Duw i fyw ynddynt,

13. fod dihirod o'ch plith wedi codi a gyrru trigolion y ddinas ar gyfeiliorn trwy eu hannog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych wedi eu hadnabod,

14. yna yr ydych i ymofyn a chwilio a holi'n fanwl; os yw'n wir ac yn sicr fod y peth ffiaidd hwn wedi ei wneud yn eich mysg,

15. yr ydych i daro trigolion y dref honno â'r cleddyf. Difrodwch hi'n llwyr â'r cleddyf, gyda phopeth sydd ynddi, gan gynnwys y gwartheg.

16. Casglwch y cwbl o'i hysbail i ganol maes y dref, a llosgwch y dref a'i hysbail â thân, yn aberth llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw, a bydd yn aros yn garnedd am byth heb ei hailadeiladu.

Deuteronomium 13