Deuteronomium 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel,

2. a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod,

3. nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

Deuteronomium 13