Deuteronomium 10:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu; yr wyt i lynu wrtho ac i dyngu yn ei enw.

21. Ef yw dy fawl, ac ef yw dy Dduw, a wnaeth iti'r pethau mawr ac ofnadwy hyn a welaist â'th lygaid dy hun.

22. Yn ddeg a thrigain o bobl yr aeth dy hynafiaid i lawr i'r Aifft, ond yn awr y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy wneud mor niferus â sêr y nefoedd.

Deuteronomium 10