Datguddiad 9:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.

21. Ni bu'n edifar ganddynt chwaith am na'u llofruddiaeth na'u dewiniaeth, na'u hanfoesoldeb rhywiol na'u lladrad.

Datguddiad 9