Datguddiad 9:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Seiniodd y pumed angel ei utgorn. Yna gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear, a rhoddwyd iddi allwedd i bwll y dyfnder.

2. Agorodd bwll y dyfnder, a chododd mwg o'r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pwll.

Datguddiad 9