Datguddiad 19:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw.

14. Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo â lliain main disgleirwyn.

15. O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog.

16. Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”

Datguddiad 19