11. Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau,
12. eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor;
13. eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd mân a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl.
14. Dywedant wrthi:“Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdanowedi mynd oddi wrthyt,a'r holl wychder a'r ysblander oedd itiwedi diflannu oddi wrthyt,byth mwy i'w canfod!”
15. Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru