Datguddiad 12:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff.

15. Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif.

16. Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.

17. Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.

18. Ac yna safodd ar dywod y môr.

Datguddiad 12