Datguddiad 10:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Cymerais y sgrôl fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel mêl yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw.

11. A dywedwyd wrthyf, “Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.”

Datguddiad 10