Colosiaid 3:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.

4. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.

5. Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.

6. O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd.

Colosiaid 3