Colosiaid 3:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.

13. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.

14. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.

15. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.

Colosiaid 3