Barnwyr 8:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech.

32. Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid.

33. Wedi marw Gideon aeth yr Israeliaid unwaith eto i buteinio ar ôl y Baalim, a chymryd Baal-berith yn dduw iddynt.

34. Ni chofiodd yr Israeliaid yr ARGLWYDD eu Duw, a'u gwaredodd o afael yr holl elynion o'u hamgylch,

Barnwyr 8