Barnwyr 18:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ac meddent hwy, “Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.

10. Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear.”

11. Felly cychwynnodd chwe chant o wŷr arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.

12. Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.

13. Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at dŷ Mica.

14. Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysbïo'r wlad cyn belled â Lais, wrth eu brodyr, “A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr.”

15. Troesant am y lle, a dod at dŷ Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.

16. Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,

17. tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.

Barnwyr 18