Barnwyr 15:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, “Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch.”

8. Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.

9. Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi.

10. Gofynnodd gwŷr Jwda, “Pam y daethoch yn ein herbyn?” Ac meddent, “Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni.”

Barnwyr 15