Barnwyr 12:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon.

13. Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel.

14. Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd.

15. Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Barnwyr 12