Barnwyr 1:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Ac meddai Adoni Besec, “Bu deg a thrigain o frenhinoedd â bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri iffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi.” Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.

8. Ymladdodd y Jwdeaid yn erbyn Jerwsalem a'i hennill, ac yna lladd y trigolion â'r cleddyf a llosgi'r ddinas.

9. Wedyn aeth y Jwdeaid i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn y mynydd-dir a hefyd yn y Negef a'r Seffela.

Barnwyr 1