Actau 4:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Safodd brenhinoedd y ddaear,ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghydyn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’

27. “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,

28. i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.

29. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air â phob hyder,

Actau 4