Actau 3:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw.

9. Gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw.

10. Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy รข braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.

11. Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu.

Actau 3