Actau 28:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Penasant ddiwrnod iddo, a daethant ato i'w lety, nifer mawr ohonynt. O fore tan nos bu yntau'n esbonio iddynt, gan dystiolaethu am deyrnas Dduw, a mynd ati i'w hargyhoeddi ynghylch Iesu ar sail Cyfraith Moses a'r proffwydi.

24. Yr oedd rhai yn credu ei eiriau, ac eraill ddim yn credu;

25. ac yr oeddent yn dechrau ymwahanu, mewn anghytundeb â'i gilydd, pan ddywedodd Paul un gair ymhellach: “Da y llefarodd yr Ysbryd Glân, trwy'r proffwyd Eseia, wrth eich hynafiaid chwi, gan ddweud:

Actau 28