Actau 24:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ac ar ôl amryw flynyddoedd, deuthum i wneud elusennau i'm cenedl ac i offrymu aberthau,

18. ac wrthi'n gwneud hyn y cawsant fi, wedi fy mhureiddio, yn y deml. Nid oedd yno na thyrfa na therfysg.

19. Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniatáu fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn;

20. neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin,

21. heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: ‘Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.’ ”

22. Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, “Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos.”

23. Gorchmynnodd i'r canwriad fod Paul i'w gadw dan warchodaeth, ac i gael peth rhyddid, ac nad oeddent i rwystro neb o'i gyfeillion rhag gweini arno.

24. Rhai dyddiau wedi hynny, daeth Ffelix yno gyda'i wraig Drwsila, a oedd yn Iddewes. Fe anfonodd am Paul, a gwrandawodd ar ei eiriau ynghylch ffydd yng Nghrist Iesu.

25. Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunanddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, “Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle.”

Actau 24