1. Pum diwrnod yn ddiweddarach, daeth Ananias yr archoffeiriad i lawr gyda rhai henuriaid, a dadleuydd o'r enw Tertulus, a gosodasant gerbron y rhaglaw eu hachos yn erbyn Paul.
2. Galwyd yntau gerbron, a dechreuodd Tertulus ei erlyniad, gan ddweud:
3. “Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, â phob diolchgarwch.
4. Ond rhag i mi dy gadw di yn rhy hir, yr wyf yn deisyf arnat i wrando ar ychydig eiriau gennym, os byddi mor garedig.
5. Cawsom y dyn yma yn bla, yn codi ymrafaelion ymhlith yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn arweinydd yn sect y Nasareaid.
6. Gwnaeth gynnig ar halogi'r deml hyd yn oed, ond daliasom ef.