Actau 2:8-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam?

9. Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,

10. Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid,

11. Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.”

12. Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?”

13. Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”

14. Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.

15. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi.

16. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:

17. “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;

18. hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,ac fe broffwydant.

19. A rhof ryfeddodau yn y nef uchodac arwyddion ar y ddaear isod,gwaed a thân a tharth mwg;

20. troir yr haul yn dywyllwch,a'r lleuad yn waed,cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;

21. a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’

22. “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain.

23. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd.

24. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael.

25. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano:“ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad,canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer.

26. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod,ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith;

27. oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades,nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth.

Actau 2