Actau 11:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw.

13. Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;

14. fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’

15. Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.

16. Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’

17. Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?”

18. Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”

Actau 11