2 Samuel 23:22-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

23. Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

24. Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

25. Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26. Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,

27. Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28. Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

2 Samuel 23