2 Samuel 22:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

29. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

30. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

31. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

2 Samuel 22