2 Samuel 2:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tŷ Jwda yn dilyn Dafydd.

11. Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar dŷ Jwda yn Hebron.

12. Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon.

13. Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.

2 Samuel 2