2 Samuel 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi hyn ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a gofyn, “A af i fyny i un o drefi Jwda?” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos.” Gofynnodd Dafydd, “I ba un?” Atebodd yr ARGLWYDD, “I Hebron.”

2. Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel;

3. hefyd fe aeth Dafydd â'r gwŷr oedd ganddo, bob un â'i deulu, a thrigo yn nhref Hebron.

2 Samuel 2