2 Samuel 13:35-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Dywedodd Jonadab wrth y brenin, “Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was.”

36. Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.

37. Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab.

2 Samuel 13