2 Samuel 11:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.

6. Anfonodd Dafydd at Joab, “Anfon ataf Ureia yr Hethiad.”

7. Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.

8. Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Dos i lawr adref a golchi dy draed.” Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl.

9. Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun.

2 Samuel 11