2 Pedr 1:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau.

20. Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur

21. yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.

2 Pedr 1