2 Pedr 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Simeon Pedr, gwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai sydd, trwy gyfiawnder ein Duw a'n Gwaredwr Iesu Grist, wedi derbyn ffydd gyfuwch ei gwerth â'r eiddom ninnau.

2. Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi trwy adnabyddiaeth o Dduw ac Iesu ein Harglwydd!

3. Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun.

2 Pedr 1