2 Cronicl 8:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Felly cyflawnwyd holl waith Solomon, o'r dydd y gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD nes ei gwblhau; a gorffennwyd tŷ'r ARGLWYDD.

17. Yna aeth Solomon i Esion-geber ac i Elath, sydd ar lan y môr yng ngwlad Edom.

18. Anfonodd Hiram longau iddo gyda'i weision oedd yn forwyr profiadol, ac aethant gyda gweision Solomon i Offir, a dod â phedwar cant a hanner o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

2 Cronicl 8