4. Yna bu'r brenin a'r holl bobl yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD.
5. Aberthodd y Brenin Solomon ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl bobl dŷ'r ARGLWYDD.
6. Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, a'r Lefiaid hefyd, gyda'r offerynnau cerdd a wnaeth y Brenin Dafydd i foliannu'r ARGLWYDD pan fyddai'n canu mawl a dweud, “Oherwydd y mae ei gariad hyd byth.” Gyferbyn â hwy yr oedd yr offeiriaid yn canu utgyrn, a'r holl Israeliaid yn sefyll.
7. Cysegrodd Solomon ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrymau a braster yr heddoffrwm, am na allai'r allor bres a wnaeth dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a'r braster.
8. A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl am wythnos, yn gynulliad mawr o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft.
9. Ar yr wythfed dydd bu'r cynulliad terfynol, wedi iddynt gadw gŵyl cysegru'r allor a'r brif ŵyl am wythnos.