2 Cronicl 32:23-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Daeth llawer i Jerwsalem gydag offrymau i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda. Ac ar ôl hynny cafodd y brenin ei barchu gan yr holl genhedloedd.

24. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD. Atebodd yntau ef trwy roi arwydd iddo.

25. Ond am ei fod yn falch, ni werthfawrogodd Heseceia yr hyn a wnaed iddo, a daeth llid Duw arno ef ac ar Jwda a Jerwsalem.

26. Yna, edifarhaodd Heseceia am ei falchder, a phobl Jerwsalem gydag ef, ac ni ddaeth llid yr ARGLWYDD arnynt wedyn yng nghyfnod Heseceia.

27. Yr oedd gan Heseceia olud a chyfoeth mawr iawn, a gwnaeth iddo'i hun drysordai ar gyfer arian ac aur, meini gwerthfawr, peraroglau, tarianau a phob math o bethau godidog.

28. Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.

29. Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.

30. Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.

2 Cronicl 32